Profion llinach genetig, DNA Cymru ac S4C

Grisiau

Mae tipyn o sôn wedi bod yn ddiweddar am DNA a chyndeidiau’r Cymry, yn dilyn cyhoeddi prosiect Cymru DNA Wales, sy’n hawlio bod modd darganfod “pwy yw’r Cymry” drwy annog pobl i brynu profion llinach genetig.

Mae gan nifer ohonom ddiddordeb yn hanes ein teulu a’n cenedl, ond mae’n bwysig deall beth mae profion o’r math hyn yn gallu dangos i ni, a bod yn ymwybodol mai nid prosiect ymchwil gwyddonol sydd y tu ôl i’r cynllun, ond cwmni masnachol sy’n gwerthu citiau DNA am elw.

Mae’r Athro Mark Thomas, sy’n arbenigwr ar eneteg yng Ngholeg y Brifysgol Llundain (UCL), wedi disgrifio’r math hyn o brawf fel “fawr gwell na sêr-ddewiniaeth enetig” sydd â “bron dim sylwedd gwyddonol” iddynt.

Mae Sense About Science, elusen sy’n ceisio addysgu’r cyhoedd am bynciau gwyddonol, wedi dweud mewn canllaw am brofion llinach DNA: “Gan fwya, dyw’r profion hyn ddim yn gallu dangos y pethau maen nhw’n honni … mae holl gysyniad profion llinach genetig i unigolion yn ddiffygiol.

Mae sawl erthygl ar y pwnc wedi ymddangos yn y cyfryngau, gan cynnwys y BBC, Telegraph a Private Eye.

Beth yw profion llinach genetig?

Mae nifer o gwmnïau yn cynnig rhoi gwybodaeth i chi am eich hynafiaid drwy brawf DNA. Mae’r hysbysebion yn rhoi’r argraff bod eich canlyniadau yn unigryw ac y byddan nhw’n disgrifio eich hanes personol chi. Ond mewn gwirionedd, gallai’r un hanes fod yr un mor wir i filoedd o bobl eraill. Ar y llaw arall, gallai canlyniadau eich prawf DNA gyd-fynd â phob math o straeon gwahanol i’r un a roddwyd i chi: allwch chi ddim edrych ar DNA a’i ddarllen fel llyfr neu lwybr ar fap. Darllenwch y canllaw Synnwyr am Brofion Llinach Genetig gan Sense About Science i wybod pam, a darganfod beth yn union mae’r cwmnïau profi llinach genetig yn ei gynnig.

Pwy yw Sense About Science?

Mae Sense About Science yn ymddiriedolaeth elusennol sy’n cynorthwyo pobl i wneud synnwyr o wyddoniaeth a thystiolaeth. Maen nhw’n ffynhonnell annibynnol o wybodaeth am y maes, ac yn gweithio gyda dros 6,000 o wyddonwyr – o enillwyr gwobrau Nobel i fyfyrwyr ymchwil – i ddarparu cyhoeddiadau sy’n esbonio pynciau cymhleth neu ddadleuol. Mae eu canllaw cynhwysfawr am wyddoniaeth profion llinach genetig bellach ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Beth yw Cymru DNA Wales?

Prosiect ar y cyd rhwng S4C, cwmni cynhyrchu rhaglenni Greenbay Media, Media Wales (perchnogion y Western Mail, Daily Post a WalesOnline) a The Moffat Partnership, cwmni preifat sy’n gwerthu profion llinach DNA.

Beth yw rôl S4C?

S4C sy’n arwain y prosiect, ac maen nhw wedi comisiynu cyfres deledu i gyflwyno canlyniadau’r “ymchwil”, yn ogystal â darparu gwefan swmpus i hyrwyddo cynnyrch The Moffat Partnership.

Mewn gohebiaeth, mae S4C wedi cydnabod eu bod nhw’n ymwybodol o flaen llaw am amheuon cryf gan wyddonwyr ynghylch profion DNA o’r math hyn, ond maen nhw wedi penderfynu peidio datgelu hynny i’r gynulleidfa wrth farchnata’r profion iddynt.

Mae Labordy Esblygiad Molecwlar a Diwylliannol (MACE) UCL wedi dweud bod rhan S4C yn y prosiect “yn ymddangos fel camddefnydd difrifol o arian cyhoeddus”.

Mae dyletswydd gyfreithiol ar S4C i sicrhau tegwch a chywirdeb yn eu rhaglenni. Pan ofynnwyd i S4C ynglŷn â seiliau gwyddonol y prosiect, dywedon nhw “bydd natur y drafodaeth fyw ’ma yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses olygyddol” — ond gan ychwanegu “y cynnwys creadigol yw’r flaenoriaeth”.

Nid “trafodaeth” fel pwnc gwleidyddol yw gwyddoniaeth, ond proses o ddarganfod a chyflwyno ffeithiau ar sail tystiolaeth. Nid yw pob safbwynt yr un mor ddilys nac yn haeddu’r un sylw. Gofynnwyd i S4C gadarnhau y bydd canlyniadau prosiect CymruDNAWales yn cael eu dilysu gan arbenigwyr yn y maes (peer-review) cyn eu cyhoeddi, ond anwybyddwyd y cwestiwn.

Mae’n anodd dychmygu sut gellid adlewyrchu gwyddoniaeth llinachau genetig yn gywir mewn cyfres sydd â chysyniad diffygiol yn sail iddi yn y lle cyntaf.

Ac hyd yn oed petai’r rhaglenni’n llwyddo i gyfleu’r maes yn deg a chytbwys, erbyn iddyn nhw gael eu darlledu bydd nifer sylweddol o bobl eisoes wedi talu dros £200 am brawf ar sail ymgyrch farchnata nad oedd yn gwbl agored â nhw.

Ni chafwyd unrhyw ateb o sylwedd pan godwyd y materion hyn gydag S4C.

Beth yw rôl Media Wales?

Cyhoeddi erthyglau chwerthinllyd a disail yn hyrwyddo’r prosiect.

Pwy sy’n elwa yn ariannol?

Mae S4C yn defnyddio arian cyhoeddus i hyrwyddo profion DNA masnachol sy’n cael eu gwerthu gan gwmni preifat The Moffat Partnership Limited, sydd hefyd wedi gweithredu dan enwau fel BritainsDNA a ScotlandsDNA. Pennaeth y cwmni yw Alistair Moffat, sy’n “hen ffrind” i Ian Jones, prif weithredwr S4C. Cynlluniwyd prosiect CymruDNAWales mewn sgwrs breifat rhwng y ddau.

Mae arbenigwyr MACE UCL wedi disgrifio’r berthynas fel “a major conflict of interest”.

Mae S4C yn dweud eu bod nhw wedi dilyn y prosesau comisiynu, busnes a chydymffurfiaeth arferol.

Pwy yw Alistair Moffat?

Nid gwyddonydd yw Alistair Moffat ond awdur a chyn-lywydd Gŵyl Gaeredin. Nid yw wedi derbyn unrhyw addysg ffurfiol mewn geneteg. Er gwaetha hynny, mae’n hyrwyddo gwaith ei gwmni yn reolaidd ar y cyfryngau, ac wedi siarad am eneteg nifer o weithiau ar y BBC, gan esgor ar sawl cwyn. Mae’r BBC wedi cydnabod mewn o leiaf un achos bod nifer o’i ddatganiadau am eneteg yn ddisail a’i fod wedi wedi hyrwyddo gwasanaeth fasnachol, yn groes i ganllawiau golygyddol y gorfforaeth ar gywirdeb a thegwch.

Mae arbenigwyr yn y maes wedi beirniadu ei ddatganiadau rhyfedd ar eneteg a chodi amheuon am ddulliau ei gwmni. Ymateb Alistair Moffat i hyn oedd bygwth achosion enllib yn eu herbyn, gweithred mor anarferol yn y byd gwyddonol bu’n destun colofn golygyddol yng nghylchgrawn Nature.

Bu Moffat yn rheithor ar Brifysgol St Andrew’s, ond derbyniodd feirniadaeth lem gan y prifathro, yr Athro Louise Richardson, yn sgîl y bygythiadau cyfreithiol: “As freedom of academic inquiry is the core principle of any university the Senate strongly disapproves of such action.” Wrth iddo ymadael â’r swydd ym mis Tachwedd 2014 cyhoeddwyd mai ef fyddai’r unig rheithor yn hanes y brifysgol i beidio gael ei enwebu am radd er anrhydedd.

Mae ef a’i gwmni hefyd wedi bod yn destun nifer o eitemau yn Private Eye.

Oes modd dweud unrhywbeth am ein cefndir mewn ffordd wyddonol?

Oes. Mae prosiect Pobl Ynysoedd Prydain yn defnyddio dulliau gwyddonol cadarn i edrych ar hanes genetig diweddar poblogaethau ynysoedd Prydain. Maen nhw’n bwriadu cyhoeddi astudiaeth o’r canlyniadau yn fuan.

Ble alla i ddysgu mwy?

Be nesa?

Beth yw’ch barn am y prosiect a rhan S4C ynddo? Os ydych chi wedi prynu prawf DNA gan CymruDNAWales, beth yw’ch ymateb i’r wybodaeth uchod? Ydych chi’n poeni am gywirdeb gwyddonol ar y cyfryngau? Beth oeddech chi’n meddwl o’r rhaglen gyntaf yn y gyfres? (I’w darlledu ar Fawrth 1af). Rhowch wybod i ni drwy adael sylw isod, neu ar Twitter gyda’r hashnod #DNACymru.

3 sylw ar “Profion llinach genetig, DNA Cymru ac S4C

  1. Rydw i wedi cymeryd y prawf DNA gyda CymruDNAWales yn ddiweddar – a rwy’n aros nawr am y canlyniadau. Ond yn y cyfamser rydw i wedi ddod ar draws llawer o gwynion gan y gymuned wyddonol am y dadansoddiadau a dyfaliadau y cwmni. Y dull mwyaf diogel i ddilyn (rwy’n credu) fydd i ganolbwyntio ar y data crai ac i cymeryd gyda gronyn o halen y dadansoddiad. Mae’r data crai yn cyfraniad y prosesau gwyddonol diweddaraf, tra bod y “copi” yn breuddwyd gwrach gan rhamantwyr (neu sêr-ddewiniaeth enetig!).

    Hoffi

  2. Yn dilyn…fe gallwch rhannu eich data crai, gyda prosiectau arbenigol ar y Rhyngrwyd lle mae rhywfaint o’r gwaith mwyaf arloesol yn cael eu gwneud. Mae’r grŵpiau yma yn arbenigo mewn “haplogroups” DNA (is-grŵpiau poblogaeth genetig). Yn ei dro, fe gall yr unigolyn ymuno â’r grŵp perthnasol. Fe gallant gloddio lawer ddyfnach i mewn i’ch gwreiddiau DNA ac i ddarganfod mwy o marcwyr sy’n diffinio hanes genetig yr unigolyn o safbwyntiau lluosog ac yn barhaus. Yn llythrennol, pob dydd mae marcwyr newydd yn cael eu darganfod. Y mae achyddiaeth genetig yn dal i fod yn faes eginol o waith ymchwil.

    Hoffi

  3. cymrais rhan yn ymchwil POBI dros y blynydde dwethaf dan Sefydliad Welcome, tybiaf bod hwnna yn llawer mwy gwyddonol a chywir ei ddadansoddiad na fydd DNA Cymru – bwriad gwaith ymchwilWelcome yw tracio heintiau a salwch ond mae’n ddifyr iawn fel mae ‘r gwaith wedi goleuo ni ar symudiadau poblogaith Ynys Prydain ://www.peopleofthebritishisles.org/

    Hoffi

Gadael sylw